Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

SF 23

Ymateb gan: Comisiynydd y Gymraeg
Response from
: Welsh Language Commissioner

 

 

Diolch ichi am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ar gyllido ysgolion yng Nghymru.

 

Mae’r sector addysg statudol yn rhan greiddiol o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu eu gweledigaeth uchelgeisiol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Un rhan allweddol o’r strategaeth yw cynyddu’r niferoedd o ddisgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r taflwybr i’r miliwn o siaradwyr yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd y nifer o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn codi o’r ffigwr presennol o 22%, i 30% yn 2031, ac yna i 40% yn 2050. Ail ran allweddol y strategaeth yw diwygio’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Yn ôl y Llywodraeth, cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru fydd yn ysgogi’r newidiadau hyn i’r ffordd y bydd y Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

 

Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 oblygiadau arwyddocaol i awdurdodau lleol, yn enwedig ym maes addysg. Er enghraifft, bydd y strategaeth gyntaf o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn gofyn i awdurdodau lleol agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, ehangu ysgolion Cymraeg presennol, neu i symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol. Bydd goblygiadau amlwg o ran cyflogi digon o athrawon i ddysgu yn yr ysgolion hyn yn ogystal. Bydd cyfrifoldeb hefyd ar awdurdodau lleol ac ysgolion yn sgil yr ail strategaeth i ddiwygio’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Er enghraifft, mae’n bosib bydd disgwyl i ysgolion ddysgu cyfran uwch o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yn unig y mae goblygiadau i hyn o ran sicrhau bod digon o athrawon â’r sgiliau ieithyddol i gyflwyno cwricwlwm o’r fath, ond bydd hefyd ofynion ychwanegol o ran creu deunyddiau ac adnoddau i gefnogi’r cwricwlwm diwygiedig. Mae’n amlwg y bydd gallu awdurdodau lleol i gyflawni’r fath newidiadau, a drwy hynny gyfrannu I strategaeth Cymraeg 2050, yn cael ei danseilio’n sylweddol oni fydd cyllid digonol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

Rwyf yn ymwybodol bod cyllid addysg awdurdodau lleol yn dod yn bennaf o’r setliad llywodraeth leol blynyddol a hefyd drwy incwm y dreth gyngor ac incwm ardrethi annomestig. Er nad yw’r gyllideb hon wedi ei neilltuo, bydd maint y gyllideb gychwynnol yn effeithio’n uniongyrchol ar faint o arian y bydd modd i awdurdodau lleol ei ddyrannu i gyllidebau penodol, er enghraifft y gyllideb addysg. Bydd hyn yn ei dro yn dylanwadu ar allu awdurdodau lleol i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, er enghraifft amcanion Cymraeg 2050.

 

Yn ôl erthygl ddiweddar gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad ar ‘Gyllido Ysgolion yng Nghymru’ mae cyfanswm y cyllid y mae awdurdodau lleol wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 1.3% mewn termau real rhwng 2017-18 a 2018-19. Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod gostyngiad o 7.9% mewn termau real rhwng 2010-11 a 2018-19 yng nghyfanswm yr arian mae awdurdodau lleol yn ei ddyrannu i’w wario ar gyfer ysgolion. Mae’r ffigyrau hyn yn codi cwestiynau pwysig ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyllid presennol yn ddigonol i alluogi awdurdodau lleol i yrru’r newidiadau pellgyrhaeddol sydd eu hangen er mwyn gwireddu gweledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Nid yn unig mae angen sicrhau'r cyllid sy’n cael ei ddirprwyo i ysgolion unigol, ond hefyd y gyllideb addysg sy’n weddill at ddefnydd awdurdod lleol. Mae’r gyllideb ganolog hon yn hollbwysig ar gyfer hybu a hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft drwy ariannu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae erthygl ddiweddar gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad yn nodi bod maint y gyllideb ganolog hon (hynny yw, y gyllideb sy’n weddill ar ôl dirprwyo cyllid i ysgolion unigol) wedi lleihau yn sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae’n debyg mai’r pwysau hyn ar gyllidebau addysg awdurdodau lleol sy’n arwain rhai awdurdodau lleol i ystyried diwygio eu polisïau cludiant addysg (er enghraifft), a allai gael effaith andwyol ar addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae tystiolaeth amlwg felly fod diffyg cyllid yn ei gwneud yn anodd i rai awdurdodau lleol gynnal y gefnogaeth bresennol i addysg cyfrwng Cymraeg, heb sôn am gynyddu’r gefnogaeth yn sylweddol yn unol ag amcanion polisi Cymraeg 2050.

 

Er bod sicrhau cyllideb graidd ddigonol ar gyfer awdurdodau lleol yn hollbwysig ar gyfer gyrru amcanion polisi Cymraeg 2050, mae hefyd angen edrych ar ffrydiau cyllido eraill ar gyfer y sector addysg statudol. Er enghraifft, rwyf yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r gyllideb addysg ar gyfer darparu grantiau at bwrpas gweithredu polisïau a blaenoriaethau penodol, a bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn ychwanegol dros dymor y Cynulliad presennol. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y cyllid sy’n cael ei ddarparu i gonsortia rhanbarthol yn cyfrannu at gefnogi addysg cyfrwng Gymraeg a dwyieithog. Yn ychwanegol i hyn, cyhoeddodd Lywodraeth Cymru yn ddiweddar fuddsoddiad o £30 miliwn ar gyfer prosiectau cyfalaf addysg cyfrwng Cymraeg, a derbyniwyd ceisiadau gan awdurdodau lleol oedd yn dod i gyfanswm o £103 miliwn. Mae’n amlwg felly bod galw ymysg yr awdurdodau lleol am gyllid ychwanegol ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n bwysig hefyd sicrhau fod y Rhaglen Cyfalaf Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio mewn ffordd strategol ar gyfer ehangu a chefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru.

Er bod y ffrydiau cyllid uchod wedi cyfrannu yn sylweddol at gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn y sector addysg, rwyf o’r farn bod angen datblygu strategaeth gyllido fwy cyson, hirdymor a sylweddol ar gyfer cefnogi awdurdodau lleol i gyfrannu at dargedau addysg Cymraeg 2050. Mae’n debyg y bydd angen i strategaeth o’r fath ystyried amryw o ffyrdd gwahanol o gefnogi awdurdodau lleol i’r perwyl hwn, gan gynnwys cyllidebau craidd awdurdodau lleol, a hefyd grantiau cyllido mwy penodol. Yn y cyd-destun hwn dylid ystyried sut gellid cydlynu’r ffrydiau cyllido hyn i hwyluso gweithrediad y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol.

 

Gobeithio bydd y sylwadau hyn o gymorth ichi wrth graffu ar drefniadau cyllido ysgolion yng Nghymru.